The Tapestry Gallery Events Friends Ein Stori PROSIECT TREFTADAETH LLANGWM

Yn 2013 gwnaethwyd cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri am grant i atgyweirio eglwys St Jerome’s ym mhentref Llangwm. Roedd archwyliad wedi dangos bod angen gwaith mawr ar yr eglwys, gyda lleithder eisioes wedi amharu ar yr hen ddelwau yn yr eglwys.


Ond roedd rhan arall i’r cynllun hefyd. Ychydig iawn a wyr am y ffaith bod Llangwm, nawr yn bentref o tua 800 o drigolion ar lanau afon Cleddau, wedi bod yn gyrchfan bwysig iawn i oresgynwyr ac ymsefydlwyro Fflandrys. Gadewsant eu nod ar yr eglwys mewn ffurf delwau anhysbys. Y syniad oedd cael cyfle i archwylio’r  stori am y Ffleminwyr mewn gwahanol ffurf: edrych ar dystiolaeth mewn dogfennau ,prawf  DNA ar rai o ddynion lleol, gwaith cloddio archeolegol, “podcast” misol i  ffrindiau a gwirfoddolwyr, ffilm, a tapestri, fel yn Bayeux, yn dweud hanes y pentre. Dyma stori y tapestri. Gobeithiwyd gorffen y prosiect gyda penwythnos ganol oesol  ym mis Ebrill a Mai 2017.


Cafodd y cais ei dderbyn, yn gyntaf i asesu maint y prosiect ac yna , ym mis Rhagfyr 2014 y taliad cyfan. Daeth amryw roddwr arall ymlaen gan gynnwys CADW.


Ac felly , roedd yr arian ar gael, llu o wirfoddolwyr a swp o syniadau! Daeth y cyfan at eu gilydd fel “Treftadaeth LLangwm”, menter ar y cyd rhwng yr eglwys a Chymdeithas Hanes Leol.


YR EGLWYS

Roedd y rhan fwyaf o’r arian yn benodol at waith atgyweirio eglwys St Jerome. Roedd rhestr siopa enfawr: gwresogi dan y llawr,gwaith atgyweirio’r to, toiled, cegin wedi eu cuddio mewn cwpwrdd,codi’r delwau a’u gosod yn ol ar orchudd i gadw’r lleithder i ffwrdd. Roedd cynllun hefyd i gael cyfleusterau yn barod i lwyfannu cyngherddau ac unrhyw ddigwyddiad arall.Roedd yr eglwys hefyd yn mynd i fod yn gartref i’r tapestri. Roedd yr eglwys  ar gau am ddeunaw mis,  yn ailagor o’r diwedd ym mis Mawrth 2017.


TYSTIOLAETH DDOGFENNOL MATHILDE (GRAHAM BRACE)

Felly pwy oedd y Ffleminwyr, a pam dod yma?  Yr her oedd cael ateb i’r cwestiynau gan ddefnyddio ffynhonnellau gwreiddiol.Ond roedd dwy stori wahanol ar gael.


Erbyn  dechrau’r 1100 roedd cymuned Ffleminaidd eisioes yn Lloegr. Roedd gwraig William y Concwerwr, Mathilde, yn dywysoges Ffleminaidd ac roedd llawer o’i filwyr hefyd o’r un teulu.  Yn ol un ddamcaniaeth roedd y brenin Henry 1 eisiau cael gwared ohonynt, felly fe’i hanfonwyd i Sir Benfro i reoli’r Cymry trafferthus. Ac roeddynt yn ryfelgar iawn!!!


Ond yn ol yr ail ddamcaniaeth death dau ymsefydlwr Ffleminaidd yma i Sir Benfro ar ol dianc storm enfawr a llifogydd. Wrth gwrs, mae’n bosib fod y ddwy ddamcaniaeth yn gywir os ydynt yn cyfeirio at ddau ymsefydliad gwahanol.


Gellir clywed mwy am y stori yma( podcast 5)


Felly rydym yn gwybod fod Ffleminwyr yn byw yma yn Sir Benfro, ac mae tystiolaeth ddogfennol o rai ohonynt: Tancard, neu Tancred a adeiladodd gastell Hwlffordd, Leetard neu’r Brenin Bach, a Wizo Fflandrensis. Ond y teulu gyda’r cysylltiad mwyaf a Llangwm oedd y De La Roches, ac yn ddiweddarach y Roches. Y cofnodiad cyntaf am y teul yw genedigaeth Godebert y Ffleminwr ym Mhenfro yo 1096. Mae hefyd yn ymddangos yn y cyfrifion brenhinol yn 1130, sy’n ei osod yn Cantref Rhos, rhan o Sir Benfro sy yn cynnwys Llangwm.


Gwyddom fod meibion Godebert, Richard a Rodebert, wedi cymmeryd rhan yng ngoresgyniad Eingl- Gymraeg o’r Iwerddon yn 1160. Cafodd y ddau dir o gwmpas Wexford a Leinster a cychwynnodd Adam, mab Rodebert, linarch sylfaenol. Adeiladodd eglwys St Jerome yn Llangwm ac hefyd castell Roch a priordy y Pill.

Felly cymmerir fel tystiolaeth bod cysylltiad rhwng  Adam a Llangwm, mae hen chwedl yn son am hyn, cafodd ei gladdu yn Roch. Ond yn ol y stori, y bore canlynol, darganfuwyd ei gorff y tu allan i eglwys St Jerome. Cafodd y corf ei ail gladdu yn Roch ond yr un peth a ddigwyddodd unwaith eto.

Ond beth am y delwau yn yr eglwys, dyn a dynes o’r bedwaredd ganrif ar ddeg o bosibl?  Ar ol gwaith ymchwilio gan arbenigwyr roddwyd corf y ddynes tua 1300 a’r dyn o ddiwedd 1 1340au. Mae’n debygol iawn mai de la Roches oddynt oherwydd roedd y ddau gorff yng nghapel y teulu yn yr eglwys.


Pwy o’r teulu a fu farw yn y 1340au? Yr ateb yw Syr Robert de la Roche, hen, hen wyr i Godebert, a fu farw yn 1350. Trwy edrych ar gofrestr genedigaeth a marwolaeth, rydym yn meddwl mai Margaret yw’r ddelw fenywaidd, mamgu Godebert.


Mae mwy o’r stori yma (podcast 5 a 6)

Y PROSIECT DNA

Y cynllun oedd cael dynion a all olrhain eu cyndadau  am dros ddwy ganrif yn y pentref, i gymeryd prawf DNA. Y gobaith oedd darganfod nod sy’n dangos eu bod o linarch y Ffleminwyr.


Doedd dim llawer o obaith gan fobl y pentref ond roedd cwmni teledu yn gwneud ffilm am hanes Cymru ac roedden nhw yn credu bod digon o obaith iddyn nhw ffilmio ein stori.


Daeth saith dyn ymlaen i gael y prawf.  Danghosodd chwech ohonynt bod eu cyndadau yn dod o wahanol rannau o Ewrob. Ond roedd y seithfed dyn yn ddiddorol iawn ac yn dipyn o ysgydwad i bawb, yn enedig y gwr ei hyn. Roedd

GWAITH ARCHAEOLEGOL

Ar ol darganfod tystiolaeth genetig roedd yn awr yn amser edrych am weddillion materol fod y Ffleminwyr wedi bod yma yn Llangwm. Dechreuwyd y gwaith ar dir yr hen faenordy oddeutu milltir tu allan i’r pentref, ty a adeiladwyd gan y de la Roches yn ol bob tebyg.

Felly, am 3 wythnos ym mis Ebrill 2016 ,dan ofal archaeolegwyr James Meek ac Alice Day o “Archaeoleg Dyfed” cychwynnod 37 o wirfoddolwyr ar y gwaith.  Danghosodd arolwg geoffiseg  ble i gychwyn y gwaith cloddio, a paratowyd 3 ffos ac yna i ffwrdd a ni gyda troweli.

Doedd dim llestr ar gael, yn anffodus, gyda “Made in Flanders” ar y gwaelod on roedd amryw ddarn o waith canoloesol ar gael, o ddarnau bach i rai eithaf mawr.


Ar ol gwaith dadansoddi penderfynwyd fod y gwaith cynnar yn dod o ardal Bryste ac yn dyddio yn ol i’r 12 a13 ganrif. Roedd darnau eraill o’r 13 i’r 15 ganrif yn waith lleol neu o Ddyfnaint. Daeth un darn bach o waith cyfandirol o ‘r Almaen, yn dyddio yn ol i’r 16 neu 17 ganrif.

Cafodd ambell ddarn o fflint Mesolithig I’r golwg, 6,000 i 7,000 mlwydd oed. Ond dyna stori arall a gwefan arall o bosib!!


Edrychwch yma am ddyddiadur y gwaith archaeolegol (podcast 6)

Y FFILM

Mae   ”The Search for Little Flanders” yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd a bydd ar gael fel DVD yng Ngwanwyn 2017. Mae’n dweud hanes grwp “Treftadaeth Llangwm”  a’u her i edrych am wybodaeth am y Ffleminwyr, a chlywir y stori gan aelodau o’r tim.

wedi troi allan bod y cyn ddirprwy brifathro yn dangos marciau anghyffredin oedd yn cyfateb yn union a grwp o Roch neu Roche yn Iwerddon.A tybir bod y rhain yn ddisgynyddion meibion Godebert ar ol iddynt feddiannu’r wlad yno yn y 1160au.


Ac ar ben hynny, ar ol ymweliad a Gwlad Belg, daeth tystiolaeth am 10 gwr arall gyda’r un marciau anghyffredin yma. O’r diwedd roedd prawf bod cysylltiad rhwng y Ffleminwyr ac un gwr o Llangwm.

Mae mwy am y stori yma (podcast 2 a 7)

Concerts Podcasts Extras