Mae’r tapestry yn dweud hanes pentref Llangwm yn sir Benfro ac yn son am ddyfodiad y Ffleminwyr i’r ardal yn yr ail ganrif ar ddeg. Mae’r tapestri yn rhan o gamp prosiect Hynafiaeth Llangwm, sy wedi talu am waith eang ar eglwys St Jerome yn y pentref ac dyma lle mae’r tapestry yn cael ei arddangos.
Pam Langum?
Does dim problem gyda’n sillafu ni! Mae’r pentre wedi cael nifer o enwau dros y blynyddoedd a dyma un ohonynt.
Cafodd y tapestry ei gynllunio gan Fran Evans, arlunydd lleol, gyda chymmorth plant ysgol Bro Cleddau yn y pentre ac ysgol Hook. Rhoddwyd lluniau Fran ar chwech ddarn o ddefnydd ac yna eu gosod mewn chwech ffram bren wedi eu creu yn arbennig i’r gwaith.
Dros Haf ac Hydref 2016 cafodd y chwech darn unigryw eu gwnio gan bobl leol. Dyma’r tro cyntaf I rai ohonynt feddwl am wnio unrhyw beth. ( Roedd yr amser yma yn gyfle am baned a sgwrs hefyd wrth gwrs!) Ar ol gorffen y gwaith cafodd y chwe darn au gwnio yn un ac yn ei gyfanrwydd mae’r gwaith yn mesur 5 medr.
Goruchwyliwyd y gwaith gan Y Parchedig Andrew Johnson, sy ei hun yn ficer lleol ac hefyd yn Feistr Gwehydd.
Dywedodd Andrew “Roeddwn yn ddigalon braidd I gychwyn trwy feddwl am faint y prosiect, a’r ffaith bod y gwaith fel hyn yn newydd i’r mwyafrif o’r cyfranogwyr. Ond yn awr wrth edrych yn ol dwi’n hapus iawn ac yn falch ein bod wedi creu gwaith mor ddeheuig yn llawn bywyd a hynodrwydd.”
Y Story
Mae’r hanes yn dechrau yn 1066 gyda ‘r frenhines Mathilde, gwraig Ffleminaidd William y Concwerwr, yn ffarwelio a’i gwr wrth iddo gychwyn ar draws y Sianel.
Daeth y Ffleminwyr, wedi eu hanfon gan Henry I i orestyn y Cymru, i ymuno a’r Normaniaid yng Nghymru. Cafodd Godbert y Ffleminwr ei eni yn 1096 ym Mhenfro, ac edruchir arno fe fel sylfaenydd y Pentre yma yn Llangwm. Yn ddiweddarach, cymerodd ei deulu yr enw de la Roche.
Adeiladwyd eglwys St Jerome yn 1185. Mae delwau y tu mewn i’r eglwys yn coffau disgynyddion Godbert, Robert de la Roche a mamgu Robert, Margaret.
Roedd angen lle cysurus ar y Ffleminwyr I fyw, felly adeiladwyd maenordy ar bwys pentref Llangwm.
Yn 1315, priododd Syr David Roche, un o ddisgynyddion Godbert, a Arglwyddes Johanna, o linarch arall o’r teulu, yn eglwys St Jerome.
Yn 1382 bu farw Margaret, aeres olaf y teulu, yn fuan ar ol priodi Syr Roger de Clarendon. Roedd e yn gysylltiedig a chynllun yn erbyn y brenin a cafodd ei grogi yn 1402.
DYMA MABEL
Gall ymwelwyr a Tapestri Siaradus Llangwm logi cyfrifiadur I lawrlwytho yr app er mwyn dilyn y stori gyda chymorth arbenigwyr. Adroddir y stori gan Mabe, o’r drydedd ganrif ar ddeg. Clywir amdani hi mewn dogfennau o’r amser ymaac yn awr, 800 mlynedd ymlaen mae hi yn cael llais.
VISIT US
The Talking Tapestry of Langum
St Jerome’s Church
The Green
Llangwm
HAVERFORDWEST
SA62 4JL
Ar agor o’r Pasg hyd at Mis Medi
10.00yb I 6.00yh
Mynediad am ddim
Lawr lwytho yr Ap £2.99